kowydd y biogen
1 a mi yn glaf er mwyn gloywferch
2 mewn llwyn yn prydv swyn serch
3 ar ddiwrnawd pybyrwawd pill
4 ddi chwerw wybr ddechre ebrill
5 ar eos ar ir wiail
6 ar fwyalch deg ar fwlch dail
81 [ar gog ar ysgvdogyll
82 yn briwo kerdd bon a brig kyll]
7 bardd koed mewn trefngoed i trig
8 a bronfraith ar ir brenfrig
9 [356] kyn y glaw yn kanv yn glav
10 Ar lwys bank evrlais bynkiav
11 ar hedydd aflonydd lais
12 kwkwlllwyd edn kv kalllais
13 yn myned mewn llvded llwyr
14 a chowydd i entrych awyr
17 a mine fardd rhiain feinir
18 yn llawen iawn yn y llwynir
21 addwyned gweled y gwydd
22 gwaisg nwyf yn dwyn gwisg newydd
23 ag egin gwin a gwenith
24 arol glaw arael a gwlith
25 a dail glas ar dal y glyn
26 ar draenwydd yn ir drwynwyn
27 myn y nef i roedd hefyd
28 y bi ffela edn or byd
29 yn ydeilad brad brydferth
30 yn hal grychedd perfedd perth
31 o ddail a ffriddgalch balch borth
32 ai chymar yn i chymorth
33 gwrando r bi mae geni gwyn
34 drwynllem falch ar ydraenllwyn
35 mawr yw dy ferw goeg chwerw gan
36 henwr wrthyd tyhunan
37 gwell vt myn mair air aren
38 garllawr tan y gwr llwyd hen
39 nag yma ymhelith gwlith a glaw
40 yn yr irlwyn ar eirlaw
43 taw ath son gad fi yn llonydd
44 enyd awr oni fo dydd
45 traserch ar ddiweirferch dda
46 a bair ym y berw yma
41 tydi bi dv yw dy big
42 uffernol edn brith ffyrnig
51 y mae i tithav gav gofwy
52 swydd falch a llafvr sydd fwy
53 tav nyth fal twyn o eithin
54 tew o ddraenwydd krynwydd krin
55 mae yt blv brithv gv gyfan
56 mae yt boen a brad mae yt ben bran
57 [357] mae yt [ ] lwed twng mae y liw teg
58 mae yt lys hagr mae yt lais hygreg
59 a ffob iaith bybyriaith bell
60 a ddysgyd freithv abl asgell
61 tydi bi dv yw dy ben
62 kymorth fi odwyd kymen
63 a dyro r kyngor gorav
64 a wypych ir mowrnych mav
65 ni ddyle fardd anharddlvn
66 nid oes yt gyngor ond vn
67 dwys iawn fydyr dos yn fevdwy
68 och wr mvl ag na char mwy
69 myn fyngrhed gwilied geli
70 o gwelai nyth byth ir bi
71 na bydd iddi hi am hyn
72 nag wy dioer nag ederyn
dafydd ap gwilym